Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Iau, 15 Medi 2016
Amser: 09.00 -
10.11
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3707
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AC (Cadeirydd) Gareth Bennett AC Janet Finch-Saunders AC Siân Gwenllian AC Bethan Jenkins AC Rhianon Passmore AC Jenny Rathbone AC Joyce Watson AC |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Jon Antoniazzi (Clerc) Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Katie Wyatt Hannah Johnson |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
2.1a Nododd y Pwyllgor y flaenraglen waith.
2.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ynghylch cylch gwaith dros dro y Pwyllgor.
2.3a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Cyllid ynghylch cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18.
2.4a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Llywydd ynghylch datganiadau Pwyllgor yn y Cyfarfod Llawn.
2.5a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch Bil Cymru.
3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
4.1 Trafododd y Pwyllgor Fil Cymru Llywodraeth y DU a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol gyda'i farn ar y Bil. Caiff ymateb drafft ei drafod yn y cyfarfod ar 21 Medi.
5.1 Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y camau nesaf ar gyfer y gwaith craffu ar ôl deddfu ar Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, a chytunodd arnynt. Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu sydd newydd eu penodi i ofyn am fanylion blaenraglenni gwaith y Comisiynwyr ac unrhyw waith sydd wedi'i gynllunio sy'n ymwneud â thrais yn erbyn menywod.